Cynadleddau Gogledd Cymru – Mynyddoedd ac Arfordir Eryri ac Ynys Môn

Mae Mynyddoedd ac Arfordir Eryri ac Ynys Môn yn enwog am weithgareddau awyr agored, am safleoedd treftadaeth a hefyd am y golygfeydd gwych. Yn ogystal mae gennym ganolfannau pwrpasol megis y Galeri yng Nghaernarfon, Plas Tre-Ysgawen a Gwesty Trearddur, hefyd y Celtic Royal, Portmeirion a Thy’n Rhos ar gyfer cynadleddau llai.

A does dim byd gwell na mynd i’r awyr agored i ddeffro’r dychymyg a sefydlu cyswllt da rhwng eich gweithlu. Yn Ynys Môn mae gennym 125 milltir o lwybrau arfordirol tra bod Parc Cenedlaethol Eryri yn 827 milltir sgwâr – digon o awyr iach i bawb.

Hwn yw’r lle perffaith i gynnal cyfarfodydd busnes, manteisio ar y cysylltiadau trafnidiaeth gwych a’r dewis rhagorol o westyau, bwytai a chyfleusterau cynhadledd.

Lle bynnag yr ydych yn Ewrop mae digon hawdd cyrraedd y lle hwn ar ffyrdd cyflym, trenau effeithiol neu wasanaeth fferi.

Cynadleddau

Os ydych yn mynd i drefnu cynhadledd anelwch am y gorau - mae yma nifer dda o westyau mawr mewn mannau eithriadol o brydferth. Ynddynt mae’r dechnoleg ddiweddaraf i gefnogi unrhyw achlysur, staff cyfeillgar a gwybodus a dewis eithriadol o lety, mi fydd hi’n bleser i chwi drefnu eich achlysur yn y rhan hon o’r byd.

Llety

Ar ôl cyrraedd mae’r dewis o lety yn ddi-ail - ynddynt ceir yr holl gyfleusterau, a’r dechnoleg ddiweddaraf i’r teithiwr busnes; hefyd mae yma dai llety y byddwch yn medru teimlo’n gartrefol ynddynt yn syth ac ymlacio ar ôl eich siwrnai.